Facebook Pixel Code

Pennaeth Cyllid ac Adnoddau (Permanent)

LOCATION
Cardiff, Cardiff, United Kingdom
APPLY BY
Expired
SALARY
£38,000.00 (per Annum) - £45,000.00 (per Annum)
APPLICATIONS
0 People
Mae Acorn Executive Search yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i benodi Pennaeth Cyllid ac Adnoddau newydd. Mae hon yn swydd gyffrous i fod yn rhan o dîm uwch-arweinwyr y sefydliad a darparu'r arweinyddiaeth angenrheidiol ar gyfer cyllid, rheoli adnoddau pobl a rheoli cyfleusterau a thechnoleg gwybodaeth.

Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yw elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a bydd y swydd hon yn allweddol i sicrhau bod y sefydliad yn gallu parhau i gyflawni ei genhadaeth o gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd yn Ne Cymru i gyflawni eu llawn botensial.

Mae'r cyfle gwych hwn yn cynnig cyflog o £38,000 - £45,000 ar sail barhaol. Byddwch yn cael 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn ogystal ag amser ychwanegol o'r gwaith wrth i'r Sefydliad gau ar gyfer y Nadolig. Yn ddelfrydol, bydd y swydd yn llawnamser ond rydym yn fodlon ystyried gweithio'n hyblyg, gweithio rhan amser a/neu weithio hybrid (o leiaf 4 diwrnod yr wythnos).

Yr hyn y byddwch yn ei wneud:

-Cefnogi'r sefydliad yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu ei gynllun strategol 5 mlynedd newyddarapru
-Arwain a rheoli tîm cyllid ac adnoddau bach
-Paratoi a dadansoddi cyfrifon rheoli misol, ynghyd â pharatoi'r gyllideb flynyddol ac arwain y gwaith o gynhyrchu cyfrifon diwedd blwyddyn gan gysylltu ag archwilwyr allanol
-Goruchwylio'r gwaith o gofnodi pob mater ariannol yn amserol ac yn gywir, gan sicrhau y cydymffurfir â pholisïau, gweithdrefnau a rheolaethau ariannol.
-Sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth cyfraith cyflogaeth a pholisïau mewnol ar draws y sefydliad, a goruchwylio'r strategaeth bobl gan sicrhau bod hyn yn cyd-fynd ag amcanion strategol ehangach
-Goruchwylio'r gwaith o reoli adnoddau pobl a sicrhau bod cynlluniau rheoli adnoddau pobl yn cyd-fynd ag amcanion strategol.
-Rheoli'r gwaith o ddefnyddio technoleg a systemau yn effeithiol ar draws y sefydliad, ynghyd â sicrhau bod systemau ar waith i reoli cyfleusterau ac asedau'n effeithiol

Am beth rydym ni'n chwilio:

-Profiad o weithio gyda thimau a byrddau uwch-arweinwyr
-Profiad o reoli ac adrodd ariannol gan gynnwys cynhyrchu cyfrifon rheoli a pharatoi cyllidebau a rhagolygon
-Profiad o reoli adnoddau pobl, yn ogystal â rheoli rhwydwaith o gyflenwyr / ymgynghorwyr
-Yn ddelfrydol, cyfrifydd wedi ei gymhwyso'n rhannol (ACCA, CIMA, ACA) neu AAT gyda Chymhwyster Lefel 4
-Sgiliau TG cryf a phrofiad blaenorol o ddefnyddio meddalwedd cyfrifyddu; byddai'n fuddiol cael profiad o Xero ond ddim yn hanfodol

Sylwch nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr o gyfrifoldebau a gofynion. I gael y disgrifiad swydd llawn a rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Acorn.

I drafod y swydd hon ymhellach, cysylltwch ag Acorn i gael trafodaeth gyfrinachol.

Y Broses o Wneud Cais

Cofrestrwch eich diddordeb erbyn dydd Sul 22 Mai. Ar ôl cofrestru, bydd ymgynghorydd o Acorn yn cysylltu â chi i drafod hyn ymhellach. Fel rhan o'ch cais, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen gais fer, ffurflen monitro cyfle cyfartal a darparu datganiad ategol. Mae'r dogfennau hyn ar gael ar wefan Acorn gyda manylion y swydd wag. Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd gofyn i chi lenwi ffurflen datganiad byr cyn eich cyfweliad.

Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 6 Mehefin.

Acorn Recruitment acts as an employment agency for permanent recruitment.
Sorry this application deadline for this job has passed, please look below for related jobs.